Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Addysgu

Wales/ temporary / £85.50 - 85.50 per day

Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Addysgu
Lleoliad: Rhydaman
Dyddiad Dechrau: Ionawr 2027
Cyflog: £85.50 y dydd

Ydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn angerddol am gefnogi dysgu a datblygiad plant?

Oes gennych chi brofiad o gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol / ADY mewn ysgol gynradd?

Ydych chi'n Gynorthwyydd Addysgu brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gallu creu amgylchedd dysgu cadarnhaol a diddorol?

Mae TeacherActive yn falch o fod yn gweithio gydag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Rhydaman sy'n chwilio am Gynorthwyydd Addysgu. Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd dysgu Cymraeg sy'n cefnogi disgyblion i ddatblygu eu hyder, eu hannibyniaeth a'u galluoedd academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r ysgol yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu i ddechrau ym mis Ionawr 2027 ar sail hirdymor. Bydd y Cynorthwyydd Addysgu llwyddiannus yn cefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth, yn gweithio ochr yn ochr â'r athro neu'r athrawes i gyflwyno gweithgareddau diddorol ac yn darparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol / ADY, gan eu helpu i gael mynediad at y cwricwlwm a chyflawni eu potensial llawn.

Bydd gan y Cynorthwyydd Addysgu llwyddiannus:

  • Sgiliau Cymraeg rhugl, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Cymhwyster Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 neu Lefel 3 (dymunol)
  • Profiad o weithio gyda phlant mewn ysgol gynradd
  • Profiad o gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol / ADY
  • Sgiliau cyfathrebu a rheoli dosbarth cryf
  • Agwedd gadarnhaol, amyneddgar a hyblyg tuag at gefnogi dysgu plant

Yn gyfnewid am yr uchod, gallwch ddisgwyl derbyn:

  • Tîm ymroddedig o ymgynghorwyr ar gael 24/7 i'ch helpu drwy'r broses gofrestru hawdd
  • Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a thystysgrifau fel rhan o'n sianel My-Progression
  • Cyfraddau cyflog cystadleuol
  • Cynllun Cyfeirio TeacherActive - Derbyn hyd at £100 pan fyddwch yn cyfeirio ffrind atom Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol

Mae ein staff yn cael eu talu drwy'r system PAYE, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol, heb unrhyw ffioedd gweinyddol yn cael eu tynnu o'ch cyflog haeddiannol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd Cynorthwyydd Addysgu hon, cliciwch APPLY NOW a byddaf yn cysylltu â chi ynghylch y cyfle gwych hwn.

E-BOST: [email protected]
RHIF CYSWLLT: 01792 717477

About TeacherActive

TeacherActive is one of the UK’s leading education recruitment agencies, with over 20 years of experience supporting schools and education professionals. We place teachers and support staff into a wide range of temporary, contract and permanent roles, helping candidates find rewarding opportunities that suit their experience, availability and career goals. We pride ourselves on providing an excellent service to both our schools and candidates.

Equal Opportunities Statement

TeacherActive is an equal opportunities employer and operates as an Employment Business and Employment Agency in providing temporary, contract and permanent job seeking services.

Safeguarding and DBS Compliance

Registration may involve an enhanced DBS check, ID checks and the supply of good professional references, depending on the role. We are committed to safeguarding and compliance across all placements.

Regular external audits have shown repeatedly that our standards are exceptional. We are passionate about finding the right staff for each education environment.