Welsh Speaking Teaching Assistant

Wales/ temporary / £85.50 - 100.00 per day

Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Addysgu Cymraeg ei Iaith
Lleoliad: Ceredigion
Dyddiad Dechrau: Dechrau ar unwaith
Cyflog: £85.50 - £100 y dydd

Oes gennych chi brofiad o gefnogi disgyblion gyda'u dysgu a'u datblygiad mewn ysgol gynradd?

Ydych chi'n amyneddgar, yn hyblyg ac yn gallu creu amgylchedd dysgu cadarnhaol a diddorol?

Ydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn frwdfrydig dros gefnogi plant?

Mae TeacherActive yn falch o fod yn gweithio gydag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ledled Ceredigion sy'n chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Cymraeg ei Iaith ymroddedig a brwdfrydig. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu Cynorthwywyr Addysgu ymroddedig, angerddol ac o safon uchel i'n hysgolion, yn ogystal â chynnig cyfleoedd arbenigol mewnol ar gyfer datblygiad gyrfa er mwyn cynnal ein safonau uchel.

P'un a ydych chi'n Gynorthwyydd Addysgu sy'n chwilio am waith cyflenwi o ddydd i ddydd, swydd hirdymor neu swydd barhaol, mae ein tîm arbenigol o ymgynghorwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau addysgol. Byddant ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy ein proses ymsefydlu ar-lein syml a hwylus.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Rhuglder yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda'r hyder i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Profiad o weithio mewn lleoliad addysgol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru
  • Sgiliau rhagorol o ran rheoli dosbarth a chyfathrebu
  • Agwedd hyblyg, frwdfrydig ac addasadwy tuag at addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn mewn ysgol gynradd

Yn gyfnewid am yr uchod, gallwch ddisgwyl derbyn:

  • Tîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd ar gael 24/7 i'ch helpu drwy'r broses ymsefydlu syml
  • Cyrsiau a thystysgrifau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) fel rhan o sianel My-Progression
  • Cyfraddau cyflog sy'n arwain y farchnad
  • Cynllun Atgyfeirio TeacherActive – Derbyniwch hyd at £100 pan fyddwch yn cyfeirio ffrind atom. Mae telerau ac amodau'n berthnasol.

Mae ein staff yn cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol, heb orfod poeni am daliadau gweinyddol yn cael eu tynnu o'ch cyflog haeddiannol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd Cynorthwyydd Addysgu Cymraeg ei Iaith hon, cliciwch ar GWNEWCH GAIS NAWR a byddaf yn cysylltu â chi i drafod y cyfle gwych hwn.

E-BOST: [email protected]
RHIF CYSWLLT: 01792 717477

About TeacherActive

TeacherActive is one of the UK’s leading education recruitment agencies, with over 20 years of experience supporting schools and education professionals. We place teachers and support staff into a wide range of temporary, contract and permanent roles, helping candidates find rewarding opportunities that suit their experience, availability and career goals. We pride ourselves on providing an excellent service to both our schools and candidates.

Equal Opportunities Statement

TeacherActive is an equal opportunities employer and operates as an Employment Business and Employment Agency in providing temporary, contract and permanent job seeking services.

Safeguarding and DBS Compliance

Registration may involve an enhanced DBS check, ID checks and the supply of good professional references, depending on the role. We are committed to safeguarding and compliance across all placements.

Regular external audits have shown repeatedly that our standards are exceptional. We are passionate about finding the right staff for each education environment.